Archive for August, 2010
Dawns Haf Glan yr Afon 2010
Bydd Ballet Annibynnol Cymru yn cynnal eu rhaglen Dawns Haf Glan yr Afon 2010 (pythefnos eto o ddawnsio trylwyr!) ym mis Gorffennaf 2010. Bydd yr wythnos gyntaf (i ddawnswyr iau) ar fynd o 19-23 Gorffennaf a chynhelir yr ail wythnos (i ddawnswyr hŷn) o 26-31 Gorffennaf, felly cofiwch ymorol eich bod yn cynllunio eich gwyliau [...]
posted on August 30th, 2010
Corfforaethol
Mae noddi’r celfyddydau yn declyn marchnata strategol profedig a hynod o weladwy ar gyfer busnesau ac mae’n gallu cyfnerthu eich delwedd gorfforaethol yn rymus. Gallai partneriaeth â Ballet Annibynnol Cymru fod yn ddechrau perthynas fusnes gynaliadwy ar sail darparu graen a’ch cyfraniad chi mewn profiad diwylliannol eithriadol. Bydd eich cefnogaeth chi’n cynnig ffrwd werthfawr o [...]
posted on August 30th, 2010
Ffrindiau a Chefnogaeth Unigol
Os ydych chi’n dotio ar ddawns ac am gael gwybod beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i lenni Ballet Annibynnol Cymru neu os oes arnoch chi eisiau dim ond boddio eich cariad tuag at ballet a dod yn un o gefnogwyr y cwmni, ymunwch â Ffrindiau Ballet Annibynnol Cymru a bod yn rhan o [...]
posted on August 30th, 2010
Ymddiriedolaethau a Sefydliadau
Mae yna elfennau lawer sy’n rhan o greu cynhyrchiad ballet rhagorol sy’n ddrud ac yn gofyn amser. Pa un ai hyfforddi ac ymarfer dawnswyr, gwisgoedd o waith llaw, creu coreograffi neu gerddoriaeth newydd yn ogystal â setiau a chelfi wedi’u cynllunio’n arbennig, mae’r amryw elfennau hyn sydd i gyd cyn bwysiced â’i gilydd yn cyfrannu [...]
posted on August 30th, 2010
Gweithdai
Mae Ballet Annibynnol Cymru’n neilltuo rhan fawr o’i deithiau i weithdai a gwaith addysg mewn theatrau, colegau, prifysgolion, ysgolion, canolfannau celfyddyd, canolfannau cymunedol, a chyrsiau dawns broffesiynol. Arweinir y sesiynau gan aelodau’r cwmni a gellir eu haddasu’n arbennig ar gyfer unrhyw ddosbarth neu grŵp. Mae ein gweithdai’n agored i bawb ac mae’r cwmni wedi ymrwymo [...]
posted on August 30th, 2010
Sam Bishop
Sam was born in Guildford, Surrey and started his training at Tring Park School for the Performing Arts. At Tring Sam danced ‘Graduation Ball’ at the Gothenburg Opera House and re-created the role the title role from Northern Ballet Theatre’s ’Dracula’. Sam has also previously worked with English National Ballet and with Robert Cohan in re-creating his landmark piece ‘Class’.
posted on August 27th, 2010
Mandev Sokhi
Hyfforddodd Mandev yn Kate Simmons Dance, Warrington, Sir Gaer, ac mae’n dderbynydd yr Enrico Cecchetti Diploma. Ar ôl graddio yn 2007, mae wedi perfformio yn The Nutcracker gyda’r Cwmni Ballet Cenedlaethol yn America a chyda chwmni Flamenco, Simpatico Flamenco, dan yr enw El Niño Fuego. Ymunodd Mandev â Ballet Annibynnol Cymru y llynedd ac mae [...]
posted on August 27th, 2010
Richard Read
Graddiodd Richard o’r Central School of Ballet yn 2005. Ymunodd â thaith y Vienna Festival Ballet o amgylch y DU o 2005-2006, gan berfformio yn The Nutcracker, Sleeping Beauty, Giselle, La Sylphide a Rhapsody in Blue. Ymunodd Richard â Ballet Annibynnol Cymru yn 2008 ac mae ei rolau’n cynnwys Romeo, Tybalt, Oberon a Demetrius.
posted on August 27th, 2010
Lauren Poulton
Graddiodd Lauren o’r Central School of Ballet yn 2005. Ers iddi raddio, mae wedi teithio’r DU gyda Gala Johann Strauss Christopher Hampson a Chwmni Dawns Anya Ison Wallace. Mae ei chredydau eraill yn cynnwys Firebird – Dance Theatre of Harlem, Giselle – Cuban National Ballet, Demise – Inspired Pictures, Mozartiana – Birmingham Royal Ballet. Ymunodd [...]
Loading... 


