Mae Ballet Annibynnol Cymru’n neilltuo rhan fawr o’i deithiau i weithdai a gwaith addysg mewn theatrau, colegau, prifysgolion, ysgolion, canolfannau celfyddyd, canolfannau cymunedol, a chyrsiau dawns broffesiynol.
Arweinir y sesiynau gan aelodau’r cwmni a gellir eu haddasu’n arbennig ar gyfer unrhyw ddosbarth neu grŵp. Mae ein gweithdai’n agored i bawb ac mae’r cwmni wedi ymrwymo i weithio gyda phobl o bob oedran, hil, gallu a chefndir mewn modd difyr ac adeiladol, o newydd-ddyfodiaid i fyd dawns hyd at lefel broffesiynol.
Mae gweithdai a dosbarthiadau meistr yn cael eu nodi ar ein taflenni taith a’n gwefan, a gallwch drefnu mynychu un ohonynt drwy ffonio’r theatr berthnasol.
Fel arall, os hoffech fwy o wybodaeth am ein rhaglen addysg neu os hoffech drefnu mynychu gweithdy gyda ni, anfonwch e-bost at ein swyddog addysg – amydoughty@welshballet.co.uk
Loading... 


