Ballet Annibynnol Cymru

Dance Europe

Dawns Haf Glan yr Afon 2010
Bydd Ballet Annibynnol Cymru yn cynnal eu rhaglen Dawns Haf Glan yr Afon 2010 (pythefnos eto o ddawnsio trylwyr!) ym mis Gorffennaf 2010. Bydd yr wythnos gyntaf (i ddawnswyr iau) ar fynd o 19-23 Gorffennaf a chynhelir yr ail wythnos (i ddawnswyr hŷn) o 26-31 Gorffennaf, felly cofiwch ymorol eich bod yn cynllunio eich gwyliau o gwmpas y dyddiadau hyn!

Dydi’r cyfnod archebu ddim wedi dechrau eto ond am ragor o wybodaeth, neu i ymuno â’n rhestr bost Dawns Haf Glan yr Afon 2010, anfonwch e-bost ataf yn amydoughty@welshballet.co.uk i roi’ch enw a’ch cyfeiriad a byddwch gyda’r cyntaf i gael gwybodaeth am ein cyrsiau.

Corfforaethol
Mae noddi’r celfyddydau yn declyn marchnata strategol profedig a hynod o weladwy ar gyfer busnesau ac mae’n gallu cyfnerthu eich delwedd gorfforaethol yn rymus. Gallai partneriaeth â Ballet Annibynnol Cymru fod yn ddechrau perthynas fusnes gynaliadwy ar sail darparu graen a’ch cyfraniad chi mewn profiad diwylliannol eithriadol. Bydd eich cefnogaeth chi’n cynnig ffrwd werthfawr o incwm, a rydd le i Ballet Annibynnol Cymru gynhyrchu gwaith o’r safon uchaf a chyrraedd y gynulleidfa ehangaf fyw fyd bosib. Mae’n amcan gan Ballet Annibynnol Cymru weithio’n glòs gyda’r noddwyr corfforaethol i gyd i greu partneriaethau gwerth chweil sy’n cwrdd â’ch nodau marchnata a chanddyn nhw fanteision wedi’u haddasu’n benodol at eich cwmni chi pa un ai drwy nawdd o’r unfath, cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol, rhaglenni datblygu staff neu nosweithiau corfforaethol.

Cefnogaeth o’r unfath / cyfleoedd eraill

Os nad oes gennych chi’r gyllideb i’w gwario ar nawdd arian sychion ond ac arnoch chi eisiau meithrin cysylltiad â’r ballet trwy ddarparu nwyddau neu wasanaethau ar ein cyfer ni’n rhad ac am ddim yn gyfnewid am fanteision wedi’u haddasu’n benodol a’ch enw yn ein rhaglenni, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Partner teithio

Mae Ballet Annibynnol Cymru yn teithio i dros 50 o theatrau, yn perfformio i dros 17,000 o bobol bob blwyddyn ledled gwledydd Prydain.  Bydd dod yn Bartner Teithio Ballet Annibynnol Cymru yn rhoi’r cyfle i’r dim i chi hyrwyddo eich cwmni ar Daith Genedlaethol i ganolbwyntio ar roi lle amlycach i’ch busnes chi yn un o’r dinasoedd y byddwn yn teithio iddyn nhw. A chithau’n noddwr Ballet Annibynnol Cymru, mae’r nawdd y talwch chi yn datblygu ac yn gwella ein gwaith artistig ac yn rhoi mwy o werth iddo.

Ffrindiau a Chefnogaeth Unigol
Os ydych chi’n dotio ar ddawns ac am gael gwybod beth sy’n mynd ymlaen y tu ôl i lenni Ballet Annibynnol Cymru neu os oes arnoch chi eisiau dim ond boddio eich cariad tuag at ballet a dod yn un o gefnogwyr y cwmni, ymunwch â Ffrindiau Ballet Annibynnol Cymru a bod yn rhan o rwydwaith mwyfwy o gefnogwyr sy’n elwa ar fanteision iddyn nhw’n unig ar yr un pryd â chyfrannu tuag at redeg y cwmni. Mae bod yn aelod o’r cylch hanfodol yma’n dwyn yn ei sgìl gysylltiad clòs a phersonol â’r cwmni yn ogystal â gwybod eich bod yn helpu i ddiogelu’r dyfodol i’r cwmni ballet bywiog ac arloesol yma.

Mae gan Ffrindiau’r cyfle dihafal i fod â chyfran ym mhob agwedd ar fywyd y Cwmni, o ddosbarth ac ymarferion cwmni i ddiodydd ‘ar ôl y sioe’ a digwyddiadau eraill y Ffrindiau. Does dim modd cynnal safon uchel ein gwaith trwy gyllid y llywodraeth yn unig a dyna pam rydym mor ddiolchgar i’r unigolion lawer sy’n cefnogi ein gwaith.

Os ydych chi am ddod yn un o Ffrindiau swyddogol Ballet Annibynnol Cymru, anfonwch siec neu archeb bost am £25 yn daladwy i Gwent Ballet Theatre Ltd i: Trwy law’r Ffrindiau, Ballet Annibynnol Cymru, 30 Cilgant Glasllwch, Casnewydd NP20 3SE

Manteision i Ffrindiau:

Llyfryn lliw am ddim

Gwahoddiad i wylio dosbarth y cwmni

Gwahoddiad i chi’n unig i ymarfer Gwisg

Croeso diodydd ‘ar ôl y sioe’

Llythyrau Newyddion

Unrhyw ddigwyddiadau eraill y Ffrindiau fel y parti Nadolig

Apêl sgidiau ballet

A dros 50 o berfformiadau’r flwyddyn a rhaglen hyfforddi ac ymarfer dwys a thrylwyr, mae dawnswyr Ballet Annibynnol Cymru yn treulio’n dyllau gannoedd o barau o sgidiau ballet bob blwyddyn.  Heb sôn am y llathenni o ruban a lastig wedi’u gwnïo arnyn nhw i gadw’r sgidiau arbennig yma ar eu traed! Gan ddibynnu ar y repertoire a’r gwahanol rolau mae dawnsiwr yn eu perfformio, mae sgidiau ballet a Pointe yn treulio’n dyllau cyn pen dim. Mae rhai dawnswyr yn treulio’n dyllau ddau bâr yr wythnos. O bell, mae sgidiau i gyd i’w gweld yr un fath. Ond o’u gweld yn agos mae pob esgid wedi’i dylunio’n benodol i ffitio pob dawnsiwr unigol. Gan hynny mae sgidiau Pointe yn wariant drud ond hanfodol i Ballet Annibynnol Cymru. Mae eich cefnogaeth i’r apêl yma’n llythrennol mewn lle i alluogi ein dawnswyr i fynd allan ar y llwyfan i berfformio.

Mae croeso i unrhyw gefnogaeth, neu gallwch gyfrannu:

£15 am bâr o sgidiau Ballet, neu

£25 am bâr o sgidiau Pointe

O anfon siec neu archeb bost i: Trwy law’r Apêl Sgidiau Ballet, Ballet Annibynnol Cymru, 30 Cilgant Glasllwch, Casnewydd NP20 3SE

Bydd diolch i chi am eich cefnogaeth yn ein rhaglen.

Ymddiriedolaethau a Sefydliadau
Mae yna elfennau lawer sy’n rhan o greu cynhyrchiad ballet rhagorol sy’n ddrud ac yn gofyn amser. Pa un ai hyfforddi ac ymarfer dawnswyr, gwisgoedd o waith llaw, creu coreograffi neu gerddoriaeth newydd yn ogystal â setiau a chelfi wedi’u cynllunio’n arbennig, mae’r amryw elfennau hyn sydd i gyd cyn bwysiced â’i gilydd yn cyfrannu tuag at ac yn chwarae rhan mewn creu a sylweddoli perfformiad sy’n gallu rhoi pleser aruthrol i gynulleidfa. Gyda chymorth Ymddiriedolaethau a Sefydliadau, gallwn gyflawni ein gwaith craidd, herio dawnswyr â gweithiau newydd trwy arbrofi’n artistig, ac at hynny cydweithrediadau â chyfansoddwyr neu artistiaid gweledol, ac yn ein gwaith allgyrch addysgol a chymuned gallwn wneud cyfraniad tuag at gymell cynulleidfaoedd newydd trwy well dealltwriaeth o’r gelfyddyd o ehangu ein gweithgaredd addysgol.

Gweithdai
Mae Ballet Annibynnol Cymru’n neilltuo rhan fawr o’i deithiau i weithdai a gwaith addysg mewn theatrau, colegau, prifysgolion, ysgolion, canolfannau celfyddyd, canolfannau cymunedol, a chyrsiau dawns broffesiynol.

Arweinir y sesiynau gan aelodau’r cwmni a gellir eu haddasu’n arbennig ar gyfer unrhyw ddosbarth neu grŵp. Mae ein gweithdai’n agored i bawb ac mae’r cwmni wedi ymrwymo i weithio gyda phobl o bob oedran, hil, gallu a chefndir mewn modd difyr ac adeiladol, o newydd-ddyfodiaid i fyd dawns hyd at lefel broffesiynol.

Mae gweithdai a dosbarthiadau meistr yn cael eu nodi ar ein taflenni taith a’n gwefan, a gallwch drefnu mynychu un ohonynt drwy ffonio’r theatr berthnasol.

Fel arall, os hoffech fwy o wybodaeth am ein rhaglen addysg neu os hoffech drefnu mynychu gweithdy gyda ni, anfonwch e-bost at ein swyddog addysg – amydoughty@welshballet.co.uk

Sam Bishop
Sam was born in Guildford, Surrey and started his training at Tring Park School for the Performing Arts. At Tring Sam danced ‘Graduation Ball’ at the Gothenburg Opera House and re-created the role the title role from Northern Ballet Theatre’s ’Dracula’. Sam has also previously worked with English National Ballet and with Robert Cohan in re-creating his landmark piece ‘Class’.

Mandev Sokhi
Hyfforddodd Mandev yn Kate Simmons Dance, Warrington, Sir Gaer, ac mae’n dderbynydd yr Enrico Cecchetti Diploma. Ar ôl graddio yn 2007, mae wedi perfformio yn The Nutcracker gyda’r Cwmni Ballet Cenedlaethol yn America a chyda chwmni Flamenco, Simpatico Flamenco, dan yr enw El Niño Fuego. Ymunodd Mandev â Ballet Annibynnol Cymru y llynedd ac mae ei rolau’n cynnwys Mercutio, Friar, Puck a Lysander.

Richard Read
Graddiodd Richard o’r Central School of Ballet yn 2005. Ymunodd â thaith y Vienna Festival Ballet o amgylch y DU o 2005-2006, gan berfformio yn The Nutcracker, Sleeping Beauty, Giselle, La Sylphide a Rhapsody in Blue. Ymunodd Richard â Ballet Annibynnol Cymru yn 2008 ac mae ei rolau’n cynnwys Romeo, Tybalt, Oberon a Demetrius.

Lauren Poulton
Graddiodd Lauren o’r Central School of Ballet yn 2005. Ers iddi raddio, mae wedi teithio’r DU gyda Gala Johann Strauss Christopher Hampson a Chwmni Dawns Anya Ison Wallace. Mae ei chredydau eraill yn cynnwys Firebird – Dance Theatre of Harlem, Giselle – Cuban National Ballet, Demise – Inspired Pictures, Mozartiana – Birmingham Royal Ballet. Ymunodd Lauren â Ballet Annibynnol Cymru yn 2007 ac mae ei rolau’n cynnwys Juliet, Lady Capulet, Blodeuwedd, Hermia, Helena a Rosie Probert.