How Green Was My Valley
Gan Richard Llewellyn
Mae’r cwmni sydd wedi ennill “Dyfarniad Cylch y Beirniaid”, Bale Annibynnol Cymru, yn cyflwyno fersiwn ryfeddol o un o storïau mwyaf cyfarwydd Cymru.
Yn seiliedig ar y nofel lwyddiannus gan Richard Llewellyn, ffilm a enillodd Oscar a chyfres deledu BBC Cymru, mae’r cynhyrchiad newydd neilltuol hwn yn cynnwys coreograffi gan enillydd “Dyfarniad Cymru Greadigol”, Darius James, a rhai o’r dawnswyr ifanc gorau yn Ewrop.
Mae “Cyfansoddwr Ifanc y Flwyddyn MacMillan”, Thomas Hewitt Jones, yn darparu sgôr atmosfferig a syfrdanol newydd a gomisiynwyd. Roedd Thomas wedi gweithio gyda’r cwmni yn 2008, gan ddarparu’r gerddoriaeth gyfareddol ar gyfer “Dan y Wenallt “.
Ac i goroni profiad cydweithredol gwirioneddol gofiadwy, mae’r artistiaid y tu ôl i’r arddangosfa “Ghosts in Armour” neilltuol wedi gweithio gyda’r cwmni i gynhyrchu dylunio arloesol a bywiog.
Loading... 


