
Bydd Ballet Annibynnol Cymru yn cynnal eu rhaglen Dawns Haf Glan yr Afon 2010 (pythefnos eto o ddawnsio trylwyr!) ym mis Gorffennaf 2010. Bydd yr wythnos gyntaf (i ddawnswyr iau) ar fynd o 19-23 Gorffennaf a chynhelir yr ail wythnos (i ddawnswyr hŷn) o 26-31 Gorffennaf, felly cofiwch ymorol eich bod yn cynllunio eich gwyliau o gwmpas y dyddiadau hyn!
Dydi’r cyfnod archebu ddim wedi dechrau eto ond am ragor o wybodaeth, neu i ymuno â’n rhestr bost Dawns Haf Glan yr Afon 2010, anfonwch e-bost ataf yn amydoughty@welshballet.co.uk i roi’ch enw a’ch cyfeiriad a byddwch gyda’r cyntaf i gael gwybodaeth am ein cyrsiau.
Loading... 


