
Photo by Peter Teigen

Photo by Peter Teigen
Mae dathliadau ar y gweill ar gyfer priodas Theseus, Dug Athen, a Hippolyta, Brenhines yr Amasoniaid. Daw Egeus gerbron Theseus â’i ferch wrthryfelgar Hermia, sydd mewn cariad â Lysander er bod ei thad yn mynnu y dylai briodi Demetrius. Mae’r Dug yn gorchymyn Hermia i ufuddhau i’w thad neu, yn ôl cyfraith Athen, mae’n rhaid iddi wynebu marwolaeth neu fynd i leiandy.
Yn hytrach, mae Hermia a Lysander yn penderfynu rhedeg ymaith y noson honno. Maent yn cyfaddef eu bwriad i’w cyfaill Helena ac mae hi, sydd mewn cariad â Demetrius ac yn gobeithio ennill ei serch, yn dweud wrtho am y cynllun. Mae’r cariadon ill pedwar yn dianc i’r goedwig y noson honno.
Roedd Bottom y gwehydd a grŵp o grefftwyr Athenaidd yn bwriadu perfformio drama, ‘Trasiedi Pyramus a Thisbe’, i ddathlu priodas y Dug. Maent yn penderfynu ymarfer yn yr un goedwig.
Mae Oberon a Titania, rheolwyr tylwyth teg y goedwig, wedi cweryla gan fod Titania wedi gwrthod ildio ei gwas bach i Oberon. Mae’n gorchymyn i Puck chwilio am blanhigyn hudol y bydd ei sudd, os caiff ei wasgu ar lygaid rhywun sy’n cysgu, yn achosi i rywun syrthio mewn cariad â’r creadur cyntaf a wêl pan fydd yn dihuno.
Mae Oberon yn defnyddio’r sudd ar Titania, ac mae’n syrthio dros ei phen a’i chlustiau mewn cariad â Bottom, sydd wedi’i hudo gan Puck. Mae’n dweud hefyd wrth Puck i ddefnyddio’r sudd ar Demetrius, er mwyn iddo syrthio mewn cariad â Helena efallai ond mae Puck, sy’n cymysgu’r ddau lanc o Athen, yn ei ddefnyddio ar Lysander yn hytrach, sy’n syrthio mewn cariad ar unwaith â Helena…
Yn y pen draw, fodd bynnag, caiff pob swyn ei godi, mae’r cariadon yn hapus yn eu parau a Titania ac Oberon yn ôl gyda’i gilydd. Mae’r tri phâr yn priodi, ac mae cwmni Bottom yn perfformio ei ddrama yn y dathliadau priodasol.
Loading... 


