
Ers 1986 mae Ballet Annibynnol Cymru yn cyflwyno safon uchel o ballet clasurol mewn ffordd ddiymhongar a gwreiddiol. Mae’r cwmni’n rheolaidd yn gofyn i oedfannau gadw prisiau tocynnau cyn ised ag y bo modd a byddwn yn gwneud ati i ymorol ein bod ar gael i bawb trwy ein gweithdai a’n dosbarthiadau.
I’r bobol hynny sy’n mynnu cael Swan Lake neu Sleeping Beauty mae yna lawer o gwmnïau bychain ar hyd y lle, ond mae’r cwmni yma’n credu mewn creu celfweithiau wedi’u seilio o gwmpas syniadau ac nid nodau ariannol.
Bob blwyddyn mae llawer o gwmnïau dawns a ballet yn mynd i’r gwellt a llawer eto’n cael eu ffurfio. Mae Ballet Annibynnol Cymru yn tyfu ers pymtheng mlynedd gan gadw’n driw i’w amcanion a’i ddelfrydau.
Bob blwyddyn mae’r cwmni’n mynd ar daith i tua 70 o oedfannau trwy hyd a lled y Deyrnas Unedig ac ymhellach draw gydag wyth dawnsiwr a dau dechnegydd, yn cyflwyno cynyrchiadau hergar a gwreiddiol sy’n torri tir newydd.
Mae’r cwmni hefyd yn ymfalchïo yn ei hanes hyfforddi a hybu dawnswyr ifainc, a chyn-aelodau bellach yn dawnsio mewn cwmnïau trwy’r byd yn grwn gan gynnwys English National Ballet, Ballet Cenedlaethol yr Iseldiroedd a Scottish Ballet.
Loading... 


