
Brodor o Gasnewydd ydi Darius a chafodd ei hyfforddiant yn y Royal Ballet School. Dawnsiodd gyda Northern Ballet Theatre, Alexander Roy London Ballet Theatre ac fel artist gwadd gyda Theatr Ballet Weiner a Chwmni Ballet Nafsika yng ngwlad Groeg. Mae wedi darlithio mewn dawns yng Ngholeg Pont-y-pŵl (TGAU Dawns) a Choleg Abertawe (Ballet safon Uwch), ac mae’n athro gwadd ac yn feirniad rheolaidd i’r Cecchetti Society. Darius ydi un o sylfaenwyr Ballet Annibynnol Cymru a’i Gyfarwyddwr Artistig ac mae wedi coreograffu llawer o gynyrchiadau un act a deuddeg o gynyrchiadau o lawn hyd i’r cwmni. Mae’n un o gyfarwyddwyr Dawns Gymuned Cymru.
Yn 2008 cafodd Darius Ddyfarniad Cymru Greadigol gan Gyngor Celfyddydau Cymru a gyflwynwyd iddo gan Rhodri Glyn Thomas, AC, y Gweinidog dros Dreftadaeth.
Loading... 


