Patricia Vallis – Swyddog Datblygu

pat

Cafodd Patricia ei hyfforddiant yn Academi Ddawns Rotterdam a’r Joffrey Ballet School yn Efrog Newydd. Dawnsiodd yng nghwmni Richard Wherlock yn Hagen ac yn Ballet Zurich, yn gweithio gyda Mats Ek, Amanda Miller a Lionel Hoche.

Roedd yn Feistres Ballet yn Theatr Wladol Darmstadt ac yn athrawes wadd y cwmnïau dawns yn St Gallen, Augsburg, Diversions a Ballet Annibynnol Cymru.

Mae’n dysgu’n rheolaidd i Rubicon ac Athrofa Prifysgol Cymru Caerdydd.

Cychwynnodd Patricia fel Swyddog Datblygu’r cwmni ym mis Hydref 2008 ac mae’n cael profiad gwerthfawr gyda rhaglen cronfa sgiliau Celfyddydau a Busnes ac yn llawn cyffro o feddwl am ddyfodol Ballet Annibynnol Cymru.


posted on July 5th, 2009

» download as PDF «