
Yng Ngholeg Cerdd a Drama Cymru y cafodd Yvonne ei hyfforddiant a gweithiodd am nifer o flynyddoedd ym myd drama, yn cyfarwyddo ac yn cymryd rhan mewn cynyrchiadau lawr. Meithrinwyd ei medrau gweinyddol dros flynyddoedd lawer yn gweithio yn y South Wales Argus ac wedyn yn Ballet Annibynnol Cymru lle mae’n Gyfarwyddwr ac yn Ysgrifenyddes bellach ers un mlynedd ar hugain.
Ar ben ei holl waith swyddfa mae Yvonne wedi cynorthwyo llawer o’r dylunwyr sydd wedi gweithio gyda’r cwmni ac wedi creu gwisgoedd i ddeunaw o gynyrchiadau o lawn hyd, gan gynnwys y cynhyrchiad presennol o ‘A Midsummer Night’s Dream’. Yvonne ydi un o sylfaenwyr Ballet Annibynnol Cymru, ei Ysgrifenyddes a’i Gyfarwyddwr Gweinyddol.
Loading... 


